CROESO
Beth yw U3A?
Dysgu er hwyl i'r rhai sydd wedi ymddeol (rhannol)!
Mae U3A yn fyrfodd am ‘University of the Third Age’, ac mae pob grŵp U3A yn aelod cysylltiedig o’r Third Age Trust (elusen gofrestredig), a sefydlwyd ym 1982. Mae’r teitl ‘Prifysgol’ yn cyfeirio at ystyr wreiddiol y gair: ‘casgliad o bobl unfryd sy’n ymroddedig i ddysgu er ei fwyn ei hun’. Nid oes arholiadau na chymwysterau mynediad, ac ni roddir cymwysterau chwaith . . . !
Mae gan bob grŵp U3A ei gyfansoddiad ei hun ac mae’n rheoli ei faterion ei hun yn ôl dymuniadau’r aelodau lleol a thrwy eu hymdrechion gwirfoddol. Ei brif bwrpas yw hyrwyddo dysgu gydol-oes i bobl nad ydynt bellach mewn cyflogaeth amser-llawn. Mae cyrsiau/grwpiau diddordeb yn gallu rhoi ysgogiad deallusol, gwneud lles yn gorfforol, a/neu bod yn hwyl. Yn sylfaenol rydym yn glwb ar gyfer ‘Adloniant, Addysg, a Chwmnȉaeth i bobl y Drydedd Oes: Dysgu, Chwerthin a Byw!
Sefydlwyd U3A Aberystwyth yn 2006; mae’n rhan o’r rhwydwaith U3A Cymreig, ac ar hyn o bryd mae ganddo tua 90 o aelodau a 7 grŵp diddordeb.
Pwy all ymuno?
Does dim cyfyngiad oedran ar gyfer aelodau U3A Aberystwyth ond anelir ein gweithgareddau at bobl aeddfed nad ydynt mewn cyflogaeth amser-llawn sy’n dymuno cyfranogi o’n gweithgareddau addysgiadol, adloniadol a/neu creadigol, a chwmnȉaeth.
Y gwobrau yw dysgu, cymryd rhan, a rhyngweithio cymdeithasol. Anogir aelodau i gymryd rhan fel dysgwyr neu athrawon/arweinwyr. Mae pob aelod yn derbyn rhaglen lawn o’n cyfarfodydd misol/digwyddiadau, a chylchlythyr rheolaidd yn rhestru’r grwpiau diddordeb, amserau, dyddiadau, lleoliadau, a manylion cyswllt arweinwyr (anfonir diweddariadau e-bost pan fo’n gymwys).
Faint fydd yn costio?
Y tanysgrifiad blynyddol cyfredol yw £20 (i’w dalu ar 1af Ionawr) ond mae aelodau newydd yn gallu ymuno unrhyw adeg o’r flwyddyn – does dim rhaid aros tan fis Ionawr i ymuno! Mae'r tanysgrifiad blynyddol nawr yn cynnwys y cylchgrawn "U3A Third Age Matters", pum rhifyn y flwyddyn. Bydd yn cael ei bostio i'ch cartref yn rhad ac am ddim, un copi i bob cartref, oni bai eich bod yn ein hysbysu nad ydych am ei dderbyn. Croeso i unrhyw un brofi cyfarfod misol hyd at ddau ymweliad (codir tâl bychan o £2 yr ymweliad), wedyn gobeithiwn y byddant yn ymuno â ni gan dalu’r aelodaeth flynyddol. (Ar gyfer aelodau newydd sy’n ymuno ar gyfer y cyfnod Medi i Ragfyr ceir gostyngiad ar y tanysgrifiad.)
Cliciwch Ffurflen Aelodaeth i ddadlwytho ffurflen ymaelodu.
Mae’n ddrwg gennym nad yw’n bosibl ymuno â grŵp diddordeb ar wahân i U3A Aberystwyth ei hun – rhaid talu’ch tanysgrifiad blynyddol yn gyntaf!
Ble’r ydym ni’n cwrdd?
Cynhelir ein prif gyfarfodydd ar y trydydd dydd Iau yn y mis am 2.30 y prynhawn, yng Bandstand, Aberystwyth.
Fel arfer cawn siaradwyr gwâdd, sy’n trafod amrywiaeth mawr o bynciau. Cliciwch ar fotwm Events uchod am fanylion ein rhaglen gyfredol.
Darperir lluniaeth ysgafn yn ein cyfarfodydd misol am ddim ond 50c, ac fel arfer ceir bwrdd lle y gwerthir llyfrau, CDau, ac eitemau eraill a roddwyd gan aelodau. Mae hyn o gymorth wrth dalu am logi’r lle, treuliau gweinyddu, ffȉoedd siaradwyr a/neu treuliau, hefyd tâl y pen i gyfundrefn DG U3A (y Third Age Trust sy’n darparu i ni gefnogaeth, defnyddiau hysbysebu, a’r sicrwydd yswiriant priodol).
Ble mae cyrsiau/grwpiau yn cael eu cynnal?
Mae’r grwpiau diddordeb yn cyfarfod mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys cartrefi aelodau. Gan fod y grwpiau diddordeb yn hunangynhaliol gall fod angen i rai aelodau dalu ffi fechan ychwanegol i dalu treuliau am ddefnyddiau a theithiau grŵp unigol.
Gobeithio y byddwch yn ystyried ymuno â ni a chymryd rhan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am U3A Aberystwyth, rhowch wybod drwy ein tudalen Contact.
Os ydych yn byw yn ardal Aberystwyth, rydym yn edrych ymlaen at glywed oddiwrthych!
- I ddychwelyd i'r tudalen flaenorol, cliciwch yma: Welcome / Croeso (Saesneg)